Town and Country Planning

1998-01-14TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk55015607607
CYNGOR SIR CEREDIGION

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Hysbysiad i Nodi bod Cynigion ar gyfer Cynllun Lleol ar gael i’r Cyhoedd eu Harchwilio

Cynllun Lleol Ceredigion (gan gynnwys y Polisau Gwastraff)—Fersiwn Deposit (Ionawr 1998)

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi paratoi cynigion ar gyfer y cynllun uchod. Os caiff y cynigion hyn eu mabwysiadu, a phryd bynnag y digwydd hynny, cânt eu hymgorffori yn rhan o’r cynllun datblygu ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion. Defnyddir y cynllun datblygu hwn yn sylfaen wrth benderfynu ar gynlluniau defnydd tir a fydd yn effeithio ar yr ardal honno.   Bydd copïau o’r cynigion ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, ac yn y cyfeiriadau isod, yn rhad ac am ddim ar ddydd Mercher 14 Ionawr 1998 gan ddechrau am 12 o’r gloch canol dydd hyd at ddydd Mercher 25 Chwefror 1998 gan orffen am 12 o’r gloch canol dydd, fel a ganlyn:—

Oriau agor:
Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion 9-5 Llun-Gwener
Hefyd yn Swyddfeydd Lleol Cyngor Sir Ceredigion:
Neuadd y Dref, Aberystwyth 9-5 Llun-Iau, 9-4.30 Gwener
Stryd Morgan, Aberteifi 9-1 a 1.45-4.30 Llun-Iau
9-1 a 1.45-4 Gwener
Neuadd y Dref, Y Stryd Fawr, Llanbedr P.S. 8.45-1 a 1.45-4.30 Llun-Iau 9-1 a 1.45-4 Gwener
Y Stryd Fawr, Llandysul 10-1 a 1.45-3.30
Ar ddydd Mawrth yn unig
Brynderwen, Adpar, Castellnewydd Emlyn 9-1 a 1.45-4.30 Llun-Iau 9-1 a 1.45-4 Gwener
Y Beili, Cei Newydd 10-12 a 12.40-3
Ar ddydd Llun yn unig
Ffordd Dewi, Tregaron 9-1 a 1.45-4.30 Llun-Iau
9-1 a 1.45-4 Gwener
Hefyd ym mhrif lyfrgelloedd a changhennau Ceredigion:
Stryd y Gorfforaeth, Aberystwyth (Adran Gyfeirio) Llun-Gwener 9.30-5 Sadwrn 9.30-1
Neuadd y Sir, Stryd y Farchnad, Aberaeron Llun 1.30-3, 4-7 Mawrth 1-4
Mercher 2-5
Gwener 10-1, 2-4.30
Sadwrn 10-12
Canolfan Teifi, Pendre, Cardigan Llun, Mawrth, Iau, Gwener 9.30-6
Sadwrn 9.30-1
Heol yr Eglwys, Cei Newydd Mawrth 4.30-7.30
Iau 2.30-4.30
Gwener 4.30-7.30
Stryd y Farchnad, Llanbedr P.S. Mawrth 10-1, 2-5
Iau 1-4
Gwener 3-7
Sadwrn 10-12
13, Stryd Lincoln, Llandysul Mawrth 5-7
Iau 2.30-4.30
Gwener 10.30-12.30, 2.30-4.30
Sadwrn 10-1
Ysgol Uwchradd Tregaron Llun 4-7
Mawrth 2-4.30
Mercher 2-4.30
Iau 4-7
Gwener 2-4.30
Os ydych am wrthwynebu’r cynigion neu am wneud sylwadau amdanynt, yna dylid gwneud hynny’n ysgrifenedig a’u hanfon at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai, Cynllun Lleol Ceredigion, Blwch Post 13, Aberaeron SA46 OYD, erbyn 12.00 canol dydd, ar ddydd Mercher 25 Chwefror 1998 fan bellaf. Wrth fynegi gwrthwynebiad neu wneud sylwadau dylid rhoi manylion am y materion a’r sail dros wneud hynny. Cewch hefyd wneud cais i gael eich hysbysu mewn cyfeiriad penodol os caiff y cynigion eu tynnu’n ôl, eu mabwysiadu, eu cymeradwyo neu eu gwrthod.   Dim ond y gwrthwynebwyr hynny a fydd wedi mynegi eu gwrthwynebiad ar ffurf ysgrifenedig a’u hanfon i’r cyfeiriad uchod cyn pen y chwe wythnos sy’n dod i ben ar 12.00 canol dydd, ar ddydd Mercher, 25 Chwefror 1998 a fydd âr hawl i’w gwrthwynebiad gael ei ystyried mewn ymchwiliad neu wrandawiad cyhoeddus.   Os byddwch am gael rhagor o wybodaeth cysylltwch aâr Tïm Cynlluniau Lleol, Cynllun Lleol Ceredigion, Blwch Post 13, Aberaeron SA46 OYD, neu ffoniwch 01545 572125 neu anfonwch ffacs: 01545 572117.

Hysbysiad o Fwriad i Fabwysiadu Cynigion

  Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod penodedig bwriada Cyngor Sir Ceredigion fabwysiadu’r cynigion pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben. E. Lewis, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai, Cyngor Sir Ceredigion.