Town and Country Planning
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
Rhybudd o Fwriad i Fabwysiadu ac o Newid Arfaethaedig I’r Cynnig i Amnewid y Cynllun Strwythur
MORGANNWG GANOL (Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)
CYNLLUN STRWYTHUR AMNEWID 1991-2006
Fersiwn Gosod Yn Cynnwys Newidiadau Arfaethedig i Gynllun Gosod Strwythur Morgannwg Canol
Mae Ysgrifenydd Gwladol Cymru wedi rhoi sel ei fendith ar y cynllun uchod i’w baratoi fel “cynllun diwygiedig”. Effaith hyn yw caniatau I Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf I baratoi newidiadau i’r cynllun uchod, dros y rhan o’r hen Sir Morgannwg Ganol a drosglwyddwyd ar 1af Ebrill 1996 i Awdurdod Cynllunio Rhondda Cynon Taf. Cynhaliwyd ac ail agorwyd ymchwiliad cyhoeddus i gynigion y cynllun yma ac ystyriwyd adroddiad y paneli a fu’n gyfrifol am yr ymchwiliadau gan gyn Gyngor Sir Morgannwg Ganol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bwriada Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf newid cynigion y cynllun. Gellir archwilio copiau o’r rhestr newid arfaethedig (ar wahan i’r newidiadau mae’r awdurdod yn fodlon na fyddant yn effeithio ar gynnwys arfaethedig y cynllun) gyda rhesymau’r awdurdod am y cynigion, yn ystod oriau swyddfa a Llyfrgell, yn.
Abercynon | Llyfrgell, Walter Street |
Aberdar | Adran Cynllunio, Adeiladau’r Gorfforaeth, Depot Road Llyfrgell, Heol Gadlys |
Aberpennar | Llyfrgell, Duffryn Road |
Cwm Clydach | Adeiladau’r Fwrdeistref, Y Pafilions, Parc Cambria |
Ferndale | Llyfrgell, High Street |
Ffynnon Taf | Llyfrgell, Ffordd Caerdydd |
Hirwaun | Llyfrgell, High Street |
Pendyrus | Llyfrgell, Ffordd y Dwyrain |
Penrhiwceiber | Llyfrgell, Penrhiwceiber Road |
Pentre’r Eglwys | Llyfrgell, Priffordd |
Pontyclun | Llyfrgell, Heol y Felin |
Pontypridd | Adeiladau’r Fwrdeistref, Heol Gelliwastad Adran Cynllunio, The Grange, Tyfica Road Adran Cynllunio, Llwyncastan, Heol y Llyfrgell Llyfrgell, Heol y Llyfrgell |
Porth | Llyfrgell, Heol Pontypridd |
Rhydyfelin | Llyfrgell, Heol Poplar |
Talbot Green | Adeiladau’r Cyngor, Danygraig, Ely Valley Road |
Ton Pentre | Adran Cynllunio, Stryd Crawshay |
Tonypandy | Llyfrgell, Stryd De Winton |
Tonyrefail | Llyfrgell, High Street |
Treherbert | Llyfrgell, Bute Street |
Treorci | Llyfrgell, Ffordd yr Orsaf |
Ynysybwl | Llyfrgell, Stryd Robert |
Rhybudd o Fwriad I Fabwysiadu’r Cynigion
Os na cheir unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod a ganiateir i’w derbyn, bwriada Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf fabwysiadu’r cynigion ar ddiwedd y cyfnod. G. P. Mellor, Cyfarwyddwr Cynllunio 11eg Mai 1998.