Town and Country Planning
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
Rhybudd o fwriad i fabwysiadu ac o newid arfaethaedig i’r cynnig i amnewid y cynllun strwythur
Morgannwg Ganol (Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) Cynllun Strwythur Amnewid 1991-2006
Fersiwn gosod yn cynnwys newidiadau arfaethedig i gynllun gosod strwythur morgannwg canol
Mae Ysgrifenydd Gwladol Cymru wedi rhoi sel ei fendith ar y cynllun uchod i’w baratoi fel cynllun diwygiedig”. Effaith hyn yw caniatau I Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf I baratoi newidiadau i’r cynllun uchod, dros y rhan o’r hen Sir Morgannwg Ganol a drosglwyddwyd ar 1af Ebrill 1996 i Awdurdod Cynilunio Rhondda Cynon Taf. Cynhaliwyd ac ail agorwyd ymchwiliad cyhoeddus i gynigion y cynilun yma ac ystyriwyd adroddiad y paneli a fu’n gyfrifol am yr ymchwiliadau gan gyn Gyngor Sir Morgannwy Ganol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bwriada Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf newid cynigion y cynllun. Gellir archwilio copiau o’r rhestr newid arfaethedig (ar wahan i’r newidiadau mae’r awdurdod yn fodlon na fyddant yn effeithio ar gynnwys arfaethedig y cynllun) gyda rhesymau’r awdurdod am y cynigion, yn ystod oriau swyddfa a llyfrgell, yn: Abercynon: Llyfrgell, Walter Street. Aberdar: Adran Cynllunio, Adeiladau’r Gorfforaeth, Depot Road and Llyfrgell, Heol Gadlys. Aberpennar: Llyfrgell, Duffryn Road. Cwm Clydach: Adeiladau’r Fwrdeistref, Y Pafilions, Parc Cambria. Ferndale: Llyfrgell, High Street. Ffynnon Taf: Llyfrgell, Ffordd Caerdydd. Hirwaun: Llyfrgell, High Street. Pendyrus: Llyfrgell, Ffordd y Dwyrain. Penrhiwceiber: Llyfrgell, Penrhiwceiber Road. Pentre’r Eglwys: Llyfrgell, Priffordd. Pontyclun: Llyfrgell, Heol y Felin. Pontypridd: Adeiladau’r Fwrdeistref, Heol Gelliwastad; Adran Cynllunio, The Grange, Tyfica Road; and Adran Cynllunio, Llwyncastan, Heol y Llyfrgell and Llyfrgell, Heol y Llyfrgell. Porth: Llyfrgell, Heol Pontypridd. Rhydyfelin: Llyfrgell, Heol Poplar. Talbot Green: Adeiladau’r Cyngor, Danygraig, Ely Valley Road. Ton Pentre: Adran Cynllunio, Stryd Crawshay. Tonypandy: Llyfrgell, Stryd De Winton. Tonyrefail: Llyfrgell, High Street. Treherbert: Llyfrgell, Bute Street. Treorci: Llyfrgell, Ffordd yr Orsaf. Ynysybwl: Llyfrgell, Stryd Robert. Hefyd gellir archwilio copiau o’r cynllun arfaethedig, Cyfeiriadur 1996 Cynllunio Tref a Gwlad (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) (Cynllun Strwythur Morgannwg Ganol), adroddiadau y paneli a gynhaliodd yr archwiliadau yn gyhoeddus a datganiadau o resymau’r awdurdod a’r penderfyniadau yng ngoleuni’r adroddiadau. Dylid anfon gwrthwynebiadau at, a sylwadau parthed, y newidiadau arfaethedig yn ysgrifenedig at: G.P. Mellor, Cyfarwyddwr Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, The Grange, 58 Tyfica Road, Pontypridd CF37 2DD, cyn 4 p.m. ar Ddydd Llun 22ain Mehefin 1998. Dylai gwrthwynebiadau a chyflwyniadau nodi y materion y cyfeiriant atynt a’r rhesymau dros eu gwneud. Gellir cynwys cais I gael eich hysbysu mewn cyfeiriad arbennig am dynnu’n ol, mabwysiadu, cadamhad neu wrthod cynigion y cynllun.
Rhybudd o Fwriad I Fabwysladu’r Cynigion
Os na cheir unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod a ganiateir i’w derbyn, bwriada Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf fabwysiadu’r cynigion ar ddiwedd y cyfnod. G. P. Mellor, Cyfarwyddwr Cynllunio 11og Mai 1998.