Town and Country Planning

-3.80069351.662599SA11 3QZ2005-01-05The County Borough of Neath Port TalbotTSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk57523UN001

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

RHEOLIADAU ASESU AMGYLCHEDDOL CYNLLUNIAU A RHAGLENNI 2004
CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cwblhau datganiad Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar Gynllun Datblygu Unedol Adnau Castell-nedd Port Talbot. Mae copau o’r crynodeb annhechnegol a’r prif ddogfennau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio yn y cyfeiriadau a’r amserau isod yn rhad ac am ddim.

Lleoliad Amserau Archwilio
Canolfan Ddinesig Port Talbot Dydd Llun-dydd Iau 8.45-5.00
Dydd Gwener 8.45-4.30
Canolfan Ddinesig Castell-nedd Dydd Llun-dydd Iau 8.45-5.00
Dydd Gwener 8.45-4.30
Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe Dydd Llun-dydd Iau 8.45-5.00
Stryd Celyn Dydd Gwener 8.45-4.30
Pontardawe
Dylai’r sawl sy’n dymuno mynegi barn ar yr adroddiad amgylcheddol wneud hynny mewn llythyr at Mr G White, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd SA11 3QZ cyn canol nos ar 15 Chwefror 2005 gan nodi’r materion y mae’n ymwneud â hwy ac ar ba sail y gwneir hynny. Gall copau neu ddarnau o’r ddogfen gael eu prynu o’r Is-adran Datblygu Polisi, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd SA11 3QZ [Ffôn: 01639 686386. E-bost: udp@npt.gov.uk]. Mae copau o’r newidiadau arfaethedig wedi’u gosod ym mhob llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol a hefyd ar wefan yr Awdurdod [www.npt.gov.uk] Gellir cael fersiwn print bras, Braille neu glywedol o’r hysbyseb hon ar gais oddi wrth yr uchod. Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio 5 Ionawr 2005.