Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
RHYBUDD O NEWIDIADAU AWGRYMEDIG PELLACH I GYNLLUN DATBLYGU UNEDOL ADNAU CASTELL-NEDD
PORT TALBOT
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn awgrymu gwneud newidiadau
cyn-ymholiad pellach i’w Gynllun Datblygu Unedol Adnau. Bydd copau o’r newidiadau
awgrymedig pellach a’r rhesymau dros eu hawgrymu ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio
yn y cyfeiriadau a’r amserau isod yn rhad ac am ddim yn ystod dyddiau gwaith arferol.
Lleoliad |
Amserau Archwilio |
Canolfan Ddinesig Port |
Dydd Llun-dydd Iau |
8.45 am-5.00 pm |
Talbot |
Dydd Gwener |
8.45 am-4.30 pm |
Canolfan Ddinesig |
Dydd Llun-dydd Iau |
8.45 am-5.00 pm |
Castell-nedd |
Dydd Gwener |
8.45 am-4.30 pm |
Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe |
Dydd Llun-dydd Iau |
8.45 am-5.00 pm |
Stryd Celyn Pontardwe |
Dydd Gwener |
8.45 am-4.30 pm |
Rhaid i wrthwynebiadau i, a chynrychioliadau o ran y newidiadau arfaethedig pellach
gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Mr G White, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd, SA11
3QZ cyn canol nos ar 3ydd Mai 2005. Dylai gwrthwynebiadau a chynrychiolaethau nodi’r
materion y maent yn ymwneud âhwy ac ar ba sail y gwneir hynny. Gallant gynnwys cais
i gael eu hysbysu, mewn cyfeiriad penodol, o dynnu’n ôl, mabwysiadu, cymeradwyo neu
wrthod yr cynigion. Mae copau neu ddarnau o’r ddogfen ar gael i’w prynu o’r Is-adran
Datblygu Polisi, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd, SA11 3QZ [Ffôn: 01639 686386. E-bost:
udp@npt.gov.uk]. Mae copau o’r newidiadau arfaethedig pellach wedi’u gosod ym mhob
llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol a hefyd ar wefan yr Awdurdod [www.npt.gov.uk] Gellir
cael fersiwn print bras, Braille neu glywedol o’r hysbyseb hon ar gais oddi wrth yr
uchod.
Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio 23ain Mawrth 2005.Michelle Maria