Town and Country Planning

-3.80069351.662599SA11 3QZThe County Borough of Neath Port Talbot2005-03-24TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk57595UN002

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

RHEOLIADAU ASESU AMGYLCHEDDOL CYNLLUNIAU A RHAGLENNI CYMRU 2004
CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cwblhau datganiad Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) diwygiedig ar Gynllun Datblygu Unedol Adnau Castell-nedd Port Talbot. Mae copiau o’r crynodeb annhechnegol a’r prif ddogfennau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio yn y cyfeiriadau a’r amserau isod yn rhad ac am ddim yn ystod dyddiau gwaith arferol.

Lleoliad Amserau Archwilio
Canolfan Ddinesig Port Talbot Dydd Llun-dydd Iau Dydd Gwener 8.45 am-5.00 pm 8.45 am-4.30 pm
Canolfan Ddinesig Castell-nedd Dydd Llun-dydd Iau Dydd Gwener 8.45 am-5.00 pm 8.45 am-4.30 pm
Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe Stryd Celyn Pontardawe Dydd Llun-dydd Iau Dydd Gwener 8.45 am-5.00 pm 8.45 am-4.30 pm
Dylai’r sawl sy’n dymuno mynegi barn ar yr adroddiad amgylcheddol diwygiedig wneud hynny mewn llythyr at Mr G White, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd, SA11 3QZ cyn canol nos ar 3ydd Mai 2005 gan nodi’r materion y mae’n ymwneud â hwy ac ar ba sail y gwneir hynny. Gall copiau neu ddarnau o’r ddogfen diwygiedig gael eu prynu o’r Is-adran Datblygu Polisi, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd, SA11 3QZ (Ffôn: 01639 686386. E-bost: udp@npt.gov.uk). Mae copiau o’r newidiadau arfaethedig wedi’u gosod ym mhob llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol a hefyd ar wefan yr Awdurdod [www.npt.gov.uk] Gellir cael fersiwn print bras, Braille neu glywedol o’r hysbyseb hon ar gais oddi wrth yr uchod. Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio 23ain Mawrth 2005. claire