Highways

2006-06-07TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk58004UN001

Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 116 AC ATODLEN DEUDDEG

Rhoddir rhybudd drwy hyn y bydd cais yn cael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i Lys yr Ynadon a fydd yn eistedd yn y Llys, Conway Road, Llandudno ar y 18fed dydd o Orffennaf 2006, am 10 am, am orchymyn a fydd yn awdurdodi cau, at ddibenion pob trafnidiaeth, ac am y rheswm nad oes angen amdani, briffordd yng Nghymuned Llansanffraid Glan Conwy nad yw naill ai’n gefnffordd nac yn ffordd arbennig, ac a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Rhybudd hwn ac a ddangosir ar y cynllun a grybwyllir isod. Gellir archwilio’r cynllun a grybwyllir uchod yn ddi-dâl, ar bob adeg resymol, yn swyddfeydd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Bodlondeb, Conwy, ac yn Llyfrgell Conwy, Castle Street, Conwy. I Davies, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Atodlen Y darn hwnnw o’r palmant gerllaw Eglwysty St Ffraid, Church Street yng Nghymuned Llansanffraid Glan Conwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac sy’n ymestyn ar ei hyd am tua 7.5 metr, gan ddod i ben ychydig cyn y gyffordd gyda Top Llan Road. Y darn tir sydd i’w gau ac a fydd yn cael ei roi yn ôl i’r perchenogion tir gerllaw wedi ei ddangos mewn croeslinellau ar y map sydd ynghlwm. Dyddiedig y 7fed dydd hwn o Fehefin, 2006.