Transport Acts

The City of WestminsterThe City and County of CardiffThe County Borough of NewportCF10 3NQ51.488786-3.182679NP19 9DZ51.593049-2.945483SW1H 0BL51.499982-0.1334492018-10-022018-10-10TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk312160662435

Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992

Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006

Gorchymyn Rheilffyrdd Caerdydd a'r Cymoedd (Trosglwyddo) arfaethedig

HYSBYSIAD O GAIS AM ORCHYMYN

Mae Keolis Amey Cymru Limited o Amey Rail Maindee Depot, Ffordd Caerllion, Casnewydd NP19 9DZ (‘Keolis Amey’) i wneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 am Orchymyn, o dan adrannau 1 a 5 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Gorchymyn drafft yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo darpariaethau statudol penodol a hawliau a rhwymedigaethau eraill sy'n ymwneud â chledrau’r cymoedd yn Ne Cymru o Network Rail Infrastructure Limited i Trafnidiaeth Cymru, ac ar gyfer arfer yr hawliau a'r rhwymedigaethau hynny gan Keolis Amey. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaethau cysylltiedig hefyd.

Nid yw’r cais i gael ei wneud yn destun asesiad effaith amgylcheddol.

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau, neu sylwadau eraill ynghylch y cynigion yn y cais at Weinidogion Cymru, Penderfyniadau Cynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bost planning.directorate@wales.gsi.gov.uk. RHAID i wrthwynebiad neu sylw arall (i) gael ei dderbyn gan Weinidogion Cymru ar neu cyn 20fed Tachwedd 2018, (ii) gael ei wneud yn ysgrifenedig (boed yn cael ei anfon drwy'r post neu e-bost), (iii) nodi sail y gwrthwynebiad neu sylw arall, (iv) nodi pwy sy'n gwneud y gwrthwynebiad neu sylw arall, a (v) rhoi cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth sy'n ymwneud â'r gwrthwynebiad neu sylw arall iddo. (Os ydych chi'n anfon eich gwrthwynebiad neu sylw arall trwy e-bost, rhowch gyfeiriad post a nodwch “Gorchymyn Rheilffyrdd Caerdydd a'r Cymoedd (Trosglwyddo)” fel testun yr e-bost).

Gall Gweinidogion Cymru wneud copïau cyflawn o'r gwrthwynebiad a sylwadau eraill yn gyhoeddus, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol sydd ynddynt, a byddant yn rhoi copi ohonynt i'r ymgeisydd am y Gorchymyn.

Bircham Dyson Bell LLP

50 Broadway, Llundain, SW1H 0BL.

Cyfreithwyr ac Asiantau Seneddol, yn gweithredu ar ran Keolis Amey Wales Cymru Limited.

10fed Hydref 2018