Coronavirus - Powers to issue directions relating to events, gatherings and premises

SwanseaSA1 1JF51.621062-3.942372CORONAVIRUS ACT 2020Coronavirus Act 20202021-11-26TSO (The Stationery Office), customer.services@thegazette.co.uk393828963541

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

DYNODIADAU O DAN BARAGRAFF 34 O ATODLEN 22 I DDEDDF Y CORONAFEIRWS 2020 – MANGRE CINEMA&CO. SWANSEA LTD

Gwnaed am 3.12 p.m. at 26 Tachwedd 2021

1. Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y dynodiadau a ganlyn mewn perthynas â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff 29(1) o Atodlen 22 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 ar y dyddiad hwn mewn cysylltiad â mangre Cinema&Co. Swansea Ltd yn 17 Castle Street, Abertawe, SA1 1JF (“cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru”).

2. Mae Gweinidogion Cymru, at ddibenion paragraff 34(1) o Atodlen 22 i Ddeddf y Coronafeirws 2020, yn dynodi’r personau a ganlyn i gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i orfodi cydymffurfedd â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru—

(a) swyddog o Gyngor Dinas a Sir Abertawe;

(b) unrhyw berson arall sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd Cyngor Dinas a Sir Abertawe;

(c) cwnstabl.

3. Caiff y camau gweithredu a grybwyllir ym mharagraff 2 gynnwys y canlynol—

(a) diogelu’r fangre a grybwyllir ym mharagraff 1 drwy ei chloi neu drwy ddulliau eraill a ystyrir yn briodol gan berson a ddynodir o dan baragraff 2;

(b) cyfarwyddo unrhyw berson fel y’i crybwyllir ym mharagraff 4 o gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i ddiogelu’r fangre honno.

4. Mae Gweinidogion Cymru, at ddibenion paragraff 34(2) o Atodlen 22 i Ddeddf y Coronafeirws 2020, yn dynodi’r personau a ganlyn i ddwyn achos am drosedd o dan Ran 4 o’r Atodlen honno mewn cysylltiad â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru—

(a) y Cwnsler Cyffredinol;

(b) Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.12 p.m. at 26 Tachwedd 2021

PUBLIC HEALTH, WALES

DESIGNATIONS UNDER PARAGRAPH 34 OF SCHEDULE 22 TO THE CORONAVIRUS ACT 2020 – PREMISES OF CINEMA&CO. SWANSEA LTD

Made at 3.12 p.m. on 26 November 2021

1. The Welsh Ministers make the following designations in relation to a direction made under paragraph 29(1) of Schedule 22 to the Coronavirus Act 2020 on this date in respect of the premises of Cinema&Co. Swansea Ltd at 17 Castle Street, Swansea, SA1 1JF (the “Welsh Ministers’ direction”).

2. The Welsh Ministers, for the purposes of paragraph 34(1) of Schedule 22 to the Coronavirus Act 2020, designate the following persons to take such action as is necessary to enforce compliance with the Welsh Ministers’ direction—

(a) an officer of Swansea City and County Council;

(b) any other person acting under the direction of Swansea City and County Council;

(c) a constable.

3. The action mentioned in paragraph 2 may include—

(a) securing the premises mentioned in paragraph 1 by locking them or by other means considered appropriate by a person designated under paragraph 2;

(b) directing any person as is mentioned in paragraph 4 of the Welsh Ministers’ direction to secure those premises.

4. The Welsh Ministers, for the purposes of paragraph 34(2) of Schedule 22 to the Coronavirus Act 2020, designate the following persons to bring proceedings for an offence under Part 4 of that Schedule in connection with the Welsh Ministers’ direction—

(a) the Counsel General;

(b) Swansea City and County Council.

Mark Drakeford

First Minister, one of the Welsh Ministers

At 3.12 p.m. on 26 November 2021