Town and Country Planning

The County of Flintshire-2.99497353.178497CH5 3PW1998-04-17CH53PWTSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk55098527527
FLINTSHIRE COUNTY COUNCIL
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Hysbysian o’r Bwriad i Ddiwygio’r Cynigion ar gyfer Cynllun Lleol
Cynllun Lleol Alun A Glannau Dyfrdwy (Sy’n ymgorffori Polisiau ar Wastraff)

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu diwygio Polisi EM.15 y Cynllun. Gellir gweld y diwygiadau arfaethedig, a rhesymau’r Awdurdod dros wneud hynny yn ogystal a chyfarwyddyd i’r awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio cynigion y cynllun, yn ddi-dâl, yn ystod oriau agor arferol y canlynol:   Swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint:     Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint;     Swyddfeydd y Sir, Parc Dewi Sant, Ewlô, Glannau Dyfrdwy;     Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, Y Fflint.   Llyfrgelloedd Cangen ym Mhenarlâg, Cei Connah, Bwcle, Aston, Brychdwn, Caergwrle, Garden City, Yr Hôb, Kinnerton, Mancot, Saltney.   Swyddfeydd Post Llanfynydd, Cymau, Y Treuddyn, Coed Talon/Pontybodcin, Penyffordd/Penymynydd.   Dylid gyrru gwrthwynebiadau a chynrychioliadau ynglyn â’r diwygio arfaethedig yn ysgrifenedig at y Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu, Cyngor Sir y Fflint, Swyddfeydd y Sir, Parc Dewi Sant, Ewlô, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 3PW, ar neu cyn 29ain Mai 1998.   Dylai gwrthwynebiadau a chynrychioliadau nodi’n benodol y materion y cyfeirir atynt, a sail y sylwadau; gellir gwneud cais am gael eich hysbysu mewn cyfeiriad penodol o dynnu’n ôl, mabwysiadu, cymeradwyo neu wrthod y diwygiad arfaethedig a chynigion y cynllun.

Hysbysiad o’r Bwriad I Fabwysiadu Cynigion

Os na dderbynnir gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod a nodwyd ar gyfer mynegi gwrthwynebiad, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon bod y diwygiad yn cydymffurfio gyda’i gyfarwyddyd, new fe dynnir y cyfarwyddyd yn ol, mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu mabwysiadu’r cynigion adeg dyddiad cau’r cyfnod hwnnw.   Gellir cael ffurflenni ar gyfer mynegi gwrthwynebiad o’r mannau a restrir uchod a gellir gofyn am gopiau o Swyddfeydd y Sir, Ewlô (Ffôn: 01352 703228).   Gellir cael copiau o’r dogfennau o Swyddfeydd y Sir yn Ewlô. R. Jarvis, Cyfarwyddwr Cynllunio a DatblyguSwyuddfeydd y Sir,   Parc Dewi Sant, Ewlô,     Glannau Dyfrdwy,       Sir y Fflint CH5 3PW.