Town and Country Planning
FLINTSHIRE COUNTY COUNCIL
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Hysbysian o’r Bwriad i Ddiwygio’r Cynigion ar gyfer Cynllun Lleol
Cynllun Lleol Alun A Glannau Dyfrdwy (Sy’n ymgorffori Polisiau ar Wastraff)
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu diwygio Polisi EM.15 y Cynllun. Gellir gweld y diwygiadau arfaethedig, a rhesymau’r Awdurdod dros wneud hynny yn ogystal a chyfarwyddyd i’r awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio cynigion y cynllun, yn ddi-dâl, yn ystod oriau agor arferol y canlynol: Swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint: Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint; Swyddfeydd y Sir, Parc Dewi Sant, Ewlô, Glannau Dyfrdwy; Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, Y Fflint. Llyfrgelloedd Cangen ym Mhenarlâg, Cei Connah, Bwcle, Aston, Brychdwn, Caergwrle, Garden City, Yr Hôb, Kinnerton, Mancot, Saltney. Swyddfeydd Post Llanfynydd, Cymau, Y Treuddyn, Coed Talon/Pontybodcin, Penyffordd/Penymynydd. Dylid gyrru gwrthwynebiadau a chynrychioliadau ynglyn â’r diwygio arfaethedig yn ysgrifenedig at y Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu, Cyngor Sir y Fflint, Swyddfeydd y Sir, Parc Dewi Sant, Ewlô, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 3PW, ar neu cyn 29ain Mai 1998. Dylai gwrthwynebiadau a chynrychioliadau nodi’n benodol y materion y cyfeirir atynt, a sail y sylwadau; gellir gwneud cais am gael eich hysbysu mewn cyfeiriad penodol o dynnu’n ôl, mabwysiadu, cymeradwyo neu wrthod y diwygiad arfaethedig a chynigion y cynllun.
Hysbysiad o’r Bwriad I Fabwysiadu Cynigion
Os na dderbynnir gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod a nodwyd ar gyfer mynegi gwrthwynebiad, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon bod y diwygiad yn cydymffurfio gyda’i gyfarwyddyd, new fe dynnir y cyfarwyddyd yn ol, mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu mabwysiadu’r cynigion adeg dyddiad cau’r cyfnod hwnnw. Gellir cael ffurflenni ar gyfer mynegi gwrthwynebiad o’r mannau a restrir uchod a gellir gofyn am gopiau o Swyddfeydd y Sir, Ewlô (Ffôn: 01352 703228). Gellir cael copiau o’r dogfennau o Swyddfeydd y Sir yn Ewlô. R. Jarvis, Cyfarwyddwr Cynllunio a DatblyguSwyuddfeydd y Sir, Parc Dewi Sant, Ewlô, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 3PW.