Town and Country Planning

1998-05-08TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk55121499499
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM
Deddf Cynllunio (Ardaloedd Cadwraeth AC Adeiladau Cofrestredig) 1990

Rhoddir Hysbysiad Drwy Hyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y 9 Chwefror 1998 newid terfynau ardal gadwraeth yn nhref Wrecsam yn y Fwrdeistref Sirol yn unol ag Adran 70 o Ddeddf Cynllunio (Ardaloedd Cadwraeth ac Adeiladau Cofrestredig) 1990. Cynhwysa’r ardal berthnasol: y cyfan o Bowen Court, Bridge Street, Bryn End, Stryt yr Eglwys, Dennis Court, Stryt y Dug, Mount Pleasant, Paddock Row, Park Street, Railway Terrace, Tai-Clawdd, The Walks, West End Terrace, Wynnstay Mews, Ysgoldy Hill a rhannau o Stryt Fawr, Ffordd Owrtyn, Pont Adam a Station Road. Gellir archwilio cynllun yn dangos y terfynau penodol yn Neuadd y Dref, Wrecsam, neu swyddfa’r Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, yn ystod oriau swyddfa arferol.   O ganlyniad i’r amrywiad hwn yn yr ardal gadwraeth ni cheir dymchwel adeiladau heb ganiatâd y Cyngor Bwrdeistref Sirol neu Ysgrifennydd Gwladol Cymru (ar wahân i eithriadau penodol parthed rhai mathau o adeiladau) a cheir darpariaethau sydd hefyd yn berthnasol i gadwraeth coed yn yr ardal. Efallai bydd rhaid dilyn dulliau arbennig parthed ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygu tir yn yr ardal gadwraeth. Cysylltwch â’r Prif Swyddog Cynllunio os oes gennych angen gwybodaeth mwy manwl ar effaith y newidiadau. B. Edwards, Prif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth Neuadd y Dref,   Wrecsam LL11 1WF. 7 Mai 1998.