Town and Country Planning

1998-06-03TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk55144482482
HYSBYSIAD CYHOEDDUS CYNGOR SIR CAERFYRDDIN
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
CYNLLUN LLEOL DINEFWR
Hysbysiad Ynglyn a Mabwysiadu Cynigion Ar Gyfer Cynllun Lleol

Ar y 29ain o Ebrill 1998, mabwysladwyd y cynigion hyn, ynghyd â newdiadau iddynt, gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y cynigion a fabwysiadwyd yn rhan o’r cynllun datblygu ar gyfer Sir Gaerfyrddin (y rhab honno o Sir Gaerfyrddin sydd yn hen Fwrdeistref Dinefwr ond heb gynnwys Parc Cenedaethol Bannau Brycheiniog). Y cynllun lieol yw’r sail i benderfyniadau ar gynllunio defnydd tir sy’n effeithio ar yr ardal honno.   Mae copĭau o’r cynigion a fabwysiadwyd ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, fel a ganlyn, Adran yr Amgylchedd, 40 Heol Spilman, Caerfyrddin; Adran yr Amgylchedd, Swyddfa Ranbarthol y Dwyrain, Swyddfa’r Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo; Neuadd y Dref Rhydaman, Heol Iscennen, Rhydaman; Adran Datblygu Economaidd a Chymunedol, Gweithdai Glanaman, Heol Tabernacl, Glanaman, Ddydd Llun i Ddydd lau rhwng 9 a.m. a 5 p.m. a rhwng 9 a.m. a 4.30 a.m. ar Dydd Gwener; Ac yn: Llyfrgell Gyhoeddus Llanymyddyfri, Maes Parcio’r Castell, Llanymddyfri, Llyfrgell Gyhoeddus Brynamman, Y Neuadd Gyhoeddus, Brynamman Yn ystod oriau agor arferol.   Daeth y cynigion hyn i rym pan fabwysiadwyd hwy. Gall unrhyw un a dramgwyddwyd gan y cynigion ac sy’n dymuno cwestiyno eu dilysrwydd ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a roddwyd gan ran ll o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf neu unrhyw reoliad a wnaed o dani mewn perthynas â’r cynigion a fabwysiadwyd, wneud cais i’r Uchel Lys, o dan adran 287 o Ddeddf 1990, at y diben hwn o fewn 6 wythnos i’r 10ain Mehefin 1998. R Sully, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd