Town and Country Planning

1998-08-13TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk55224493493
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM
Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig Ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
Hysbysiad O Ddynodiad Basn Trefor, Trefor ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Yn Ardal Gadwraeth

Rhoddir hysbysiad drwy hyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (y Cyngor) ddynodi ardal ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardal gadwraeth yn unol ag Adran 69 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990 ar y 6ed Gorffennaf 1998. Cynhwysa’r ardal fasn camlas Trefor i gyd a Thraphont Ddwr Pontcysyllte, ychydig o dir i’r dwyrain o fasn y gamlas, i’r dwyrain, gorllewin a’r de o’r Draphont a rhannau o’r B5434 a Ffordd Newydd. Gellir archwilio cynllun o ffiniau manwl yr ardal yn, Neuadd y Dref, Wrecsam, neu yn swyddfa’r Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, yn ystod oriau swyddfa arferol.   O ganlyniad i ddynodi’r ardal yn ardal gadwraeth ni cheir dymchwel adeiladau ynddi (ar wahân i eithriadau penodedig a wneir ar gyfer rhai mathau o adeiladau) heb ganiatâd y Cyngor neu Ysgrifennydd Gwladol Cymru a cheir hefyd ddarpariaethau ar gyfer cadwraeth coed yn yr ardal. Yn ogystal efallai bydd rhaid dilyn dulliau arbennig ar gyfer gwneud ceisiadau cynllunio i ddatblygu tir yn yr ardal gadwraeth.   Dylai unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth fanylach ar effaith y dynodiad gysylltu â’r Prif Swyddog Cynllunio. B. Edwards, Prif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth Neuadd y Dref, Blwch SP 1284,   Wrecsam LL11 1WF. 13eg Awst 1998.