Highways

2005-04-12TSO (The Stationery Office), St Crispins, Duke Street, Norwich, NR3 1PD, 01603 622211, customer.services@tso.co.uk57611UN001

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

RHYBUDD O GAIS I GAU FFORDD
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 116

Hysbysir trwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu gwneud cais i’r Llys Ynadon, y Llysoedd, Bodhyfryd, Wrecsam am 10 a.m. ar 12 Mai 2005 am orchymyn i gau’r darn hwnnw o’r ffordd nad yw’n briffordd nac yn ffordd arbennig yng Nghymuned Bangos Is-y-coed a ddisgrifir yn yr atodiad isod, at ddibenion traffig ac ar y sail nad oes ei hangen. Gellir archwilio’r gorchymyn yn Neuadd y Dref, Wrecsam yn ystod oriau swyddfa arferol. T Coxon, Prif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth Neuadd y Dref, Blwch SP 1284, Wrecsam LL11 1WF. Atodiad Darn o ffordd fabwysiedig a leolir ar ymyl ddwyreiniol Lôn Millbrook, Bangor Is-y-coed, Wrecsam oddeutu 12 metr o’r gyffordd â’r A525 ac a ddisgrifir yn fwy penodol fel darn trionglog o dir a liwiwyd yn ddu ar y cynllun atodedig, oddeutu 462 metr sgwâr â’i ffin ar ymyl y ffordd a ffin yr eiddo o’r enw Abbeygate. 1 Ebrill 2005.